Mae’r heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod nhw’n edrych am ail saethwr ar ôl i chwe pherson gael eu saethu yn farw yn Tucson, Arizona.
Cafodd aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau, Gabrielle Giffords, 40 oed, ei saethu yn ei phen yn ystod yr ymosodiad. Hi oedd targed yr ymosodiad, meddai’r heddlu, ac mae hi’n brwydro am ei bywyd yn yr ysbyty.
Roedd y meirw yn cynnwys y barnwr ffederal John Roll a plentyn 9 oed.
Dywedodd y Siryf lleol bod y gyflafan wedi dod i ben ar ôl i ddau berson ymosod ar y saethwr, Jared Loughner, 22 oed. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Siryf eu bod nhw’n chwilio am ail ddyn, gwyn, yn ei 50au. Yn ôl adroddiadau gan y wasg yn yr Unol Daleithiau cafodd yr ail ddyn ei ddal ar fideo camerâu cylch cyfyng.
“Mae yna rai pobol anghytbwys, sy’n ymateb i’r casineb sy’n dod allan o gegau rhai pobol ynglŷn â rhwygo’r llywodraeth i lawr,” meddai’r Siryf, Clarence Dupnik.
“Mae’r dicter, y casineb, a’r rhagfarn yn y wlad yma’n warthus. Yn anffodus, rydw i’n meddwl mai Arizona yw’r canolbwynt.”
Ychwanegodd bod y saethwr yn ddyn ‘ansefydlog’ ac yn dod o gefndir anodd.
Gabrielle Giffords
Cafodd y Democrat Gabrielle Giffords ei hail ethol am drydydd tymor o drwch blewyn ym mis Tachwedd, gan faeddu un o ymgeiswyr y ‘Tea Party’ adain dde.
Roedd ceidwadwyr ledled yr Unol Daleithiau wedi gobeithio ei disodli ar ôl iddi gefnogi cyfraith gofal iechyd Barack Obama.
Cafodd ei swyddfa yn Tuscon ei fandaleiddio ym mis Mawrth yn fuan ar ôl i’r ddeddf gael sêl bendith gwleidyddion.