Mae brawd Joanna Yates wedi dweud bod marwolaeth ei chwaer wedi ei adael mewn “pwll du swrrealaidd o ofid”.
Roedd Chris Yates, 28, yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf wrth i deulu’r ferch o Fryste apelio unwaith eto am gymorth er mwyn dod o hyd i’w llofrudd.
“Roedd Jo yn chwaer i mi ac roeddwn i’n rhannu’r un pryder a fy rhieni bod rhywbeth drwg wedi digwydd iddi,” meddai Chris Yates.
“Roedd yr wythnos gyfan cyn iddyn nhw ddod o hyd i gorff Jo yn teimlo’n afreal. Cefais i ddweud hwyl fawr wrth Jo a throdd yr anobaith oeddwn i’n ei deimlo yn dristwch dwfn.”
Dywedodd rhieni Joanna Yates, David, 63, a Theresa, 58, eu bod nhw dioddef trawma dyddiol ers i’w merch gael ei chipio a’i dympio mewn hewl wledig “fel darn o sbwriel”.
Ychwanegodd y teulu nad oedden nhw wedi dod i dermau â’r ffaith na fydden nhw yn ei gweld hi byth eto.
“Hoffwn ni ailadrodd ein cais am unrhyw wybodaeth sydd â chysylltiad â marwolaeth Jo, hyd yn oed os ydi’r wybodaeth yn ymddangos yn gwbl fach a di-nod,” medden nhw.
“Fe allai darn bach o wybodaeth ddatrys y pos sy’n wynebu’r heddlu ac arwain at adnabod y llofrudd.”