Daeth rhediad Caeredin o bum buddugoliaeth gartref yn olynol i ben wrth i’r Scarlets sgorio dwy gais yn oerfel Murrayfield.
Roedd ceisiau gan y cefnwr Morgan Stoddart a’r canolwr Jonathan Davies, yn ogystal â 11 pwynt gan y maswr Rhys Priestland, yn ddigon i’r Scarlets ennill y gêm a symud i’r ail safle yn nhabl Cynghrair Magners.
Sgoriodd Chris Paterson 16 pwynt dros y tîm cartref â chais, trosiad a tair chic gosb.
Yr ymwelwyr ddechreuodd orau a daeth cyfle cynnal am gais ar ôl i faswr Caeredin, Mike Blair, daflu pas erchyll gafodd ei daro ymlaen gan asgellwr y Scarlets, Richie Pugh.
Llwyddodd Chris Paterson i ennill y ras a chyrraedd llinell gais ei dîm ei hun cyn i’r un o’r crysau cochion lanio ar y bêl.
Eiliadau yn ddiweddarach cafodd Rhys Priestland ei gyfle cyntaf i sgorio tri phwynt ar ôl trosedd yn y sgrym. Dyblodd mantais y Scarlets â ail gic gywir ar ôl 20 munud.
Crafodd y tîm gartref eu ffordd yn ôl ac unioni’r sgôr ar ôl dau ymosodiad carlamus gan David Blair a dwy gic gosb gan Chris Paterson.
Dechreuodd yr ail hanner â chlec wrth i Morgan Stoddart lamu dros y gwyngalch munud yn unig ar ôl ailddechrau’r chwarae.
Methodd Rhys Priestland y trosiad ond roedd yn llwyddiannus wrth sgorio trydedd gic gosb. Ymatebodd Chris Paterson â’i gic ei hun yn fuan wedyn.
Sgoriodd Jonathan Davies ail gais y Scarlets, ar ôl osgoi sawl tacl, a chiciodd Rhys Priestland y trosiad gan roi’r crysau cochion 21-9 ar y blaen.
Roedd newyddion da i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wrth i’r maswr Stephen Jones ddychwelyd i’r cae ar ôl anaf i’w ysgwydd yn 17 munud olaf y gêm.
Roedd yr eilydd Simon Webster yn credu ei fod wedi sgorio cais dros Gaeredin ond penderfynodd y dyfarnwr bod y bas olaf wedi mynd ymlaen.
Sgoriodd Chris Paterson gais hwyr ac roedd y dorf yn gobeithio am fuddugoliaeth annisgwyl, ond daliodd yr ymwelwyr ymlaen i sicrhau’r fuddugoliaeth.