Cafodd aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau ei saethu yn ei phen, a sawl person arall eu hanafu, heddiw..

Ymosododd rhywun ar y Democrat â dryll awtomatig wrth iddi gyfarfod gydag etholwyr yn Arizona.

Dywedodd yr awdurdodau bod un dioddefwr wedi marw yn fuan ar ôl yr ymosodiad ac fe aethpwyd a’r lleill i ysbyty cyfagos.

Mae’r Cyngreswraig Gabrielle Giffords mewn cyflwr difrifol ar ôl yr ymosodiad yn Tuscon.

Cafodd hi ei hail ethol am drydydd tymor ym mis Tachwedd. Roedd hi’n aelod o Senedd Arizona cyn mynd i Washington.