Mae dyn wedi marw ar ôl disgyn ar fynydd yn Eryri.

Disgynnodd y dyn o Sir y Fflint oedd yn ei 40au wrth ddringo â chyfeillion mewn eira yng Nghwm Lloer yn y Carneddau.

Digwyddodd y ddamwain toc cyn 11.30am. Mae’n debyg ei fod wedi disgyn tua 450 troedfedd.

Fe fu farw o’i anafiadau yn fuan ar ôl cael ei roi ar hofrennydd RAF y Fali. Yn gynharach roedd wedi derbyn cymorth cyntaf gan Dîm Achub Mynydd Ogwen.