Mae Heddlu Gwent yn galw am lygaid dystion ar ôl i gerddwr 60 oed farw ar ôl gwrthdrawiad â Land Rover Discovery yn Sir Fynwy.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 17.50pm ddydd Gwener ar y B4246 rhwng Gofilon a Llanffwyst.
Aethpwyd a’r dyn i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ond roedd wedi marw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 01633 838111.