Stoke 1 – 1 Caerdydd

Mae Caerdydd wedi haeddu gêm gartref yn erbyn Stoke o Uwch Gynghrair Lloegr yn y Cwpan FA ar ôl gêm gyfartal oddi cartref yn Stadiwm Britannia.

Caerdydd sgoriodd y gôl gynnar ond tarodd Stoke yn ôl cyn yr hanner amser, a pharhau i fygwth trwy gydol yr ail.

Roedd gan Gaerdydd fwy o’r meddiant i ddechrau ond wrth i’r gêm fynd rhagddo roedd Stoke yn fwy bygythiol o flaen y gôl.

Daeth y dechrau gorau posib i Gaerdydd ar ôl wyth munud wrth i Michael Chopra sgorio o’r tu mewn i’r blwch cosbi.

Bu bron i Stoke ymateb â chic rydd gan Marc Wilson a darodd y bar.

Roedd Caerdydd nhw wedi gobeithio cyrraedd yr hanner amser â’u mantais yn gyflawn ond sgoriodd Tuncay Sanli o ymyl y blwch cosbi er mwyn unioni’r sgôr toc cyn y chwiban.

Bu bron i Kenwyne Jones ennill y gêm i Stoke cyn y diwedd ond llwyddodd David Marshall i arbed y bêl.