Mae Abertawe drwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA ar ôl buddugoliaeth hawdd gartref yn erbyn Colchester United o Gynghrair Un Lloegr.

Cyfrannodd Garry Monk, Darren Pratley, Cedric Van der Gun gôl yr un wrth i Abertawe faeddu Colchester 4 – 0.

Sgoriodd Garry Monk y cyntaf ar ôl 25 munud â pheniad o fewn ardal y gôl, cyn gorfod gadael y cae gydag anaf.

Dim ond deg munud ar ôl y gôl cyntaf daeth ail gan Darren Pratley, a darodd y bêl o du mewn i’r blwch cosbi i gornel chwith gwaelod y rhwyd.

Daeth trydedd gôl i Abertawe ar ôl 68 munud, gan Cedric Van der Gun a darodd y bêl i mewn o agos.

Chwarter awr yn ddiweddarach saethodd Scott Sinclair y bêl i ochr dde’r rhwyd ar ôl rhediad chwim i lawr y chwith.