Mae merch fach wedi goroesi yn yr Ariannin ar ôl i’w mam ei chuddio dan blatfform gorsaf drenau wrth i drên agosáu.

Mae camera cylch cyfyng yn dangos y fam a’r ferch fach yn dringo i lawr ymyl y platfform, o bosib er mwyn cuddio oddi wrth y casglwr tocynnau.

Wrth sylweddoli bod trên ar y ffordd mae’r fam yn dringo yn ôl i fyny yr platfform a gadael y ferch fach ar y traciau.

Wrth i’r trên atal gellir gweld y fam yn pwyso drosodd a chwilio am ei merch yn y bwlch rhwng y trên a’r platfform.

“Fe wnaethon ni dorri’r cysylltiad trydan yn syth er mwyn osgoi damwain,” meddai Guillermo D’Abenigno, rheolwr Trenau Buenos Aires.

“Roedden ni wedi ofni’r gwaethaf – fod y ferch wedi ei rhwygo’n ddarnau o dan y trên.”

Llwyddodd gweithwyr y cwmni i gropian dan y platfform, a daethpwyd o hyd i’r ferch fach oedd wedi cuddio y tu mewn i gilfach fechan.

Roedd hi wedi cael braw ond heb ei hanafu, medden nhw.

Digwyddodd y cyfan ddydd Mawrth ond daeth i sylw cyfryngau’r wlad pan ryddhawyd y fideo ddoe.

Dywedodd Guillermo D’Abenigno bod pobol yn “gwneud pob math o bethau er mwyn osgoi talu am docyn”.

Dyw hi ddim yn hysbys eto a fydd y fam yn cael ei chyhuddo o beryglu bywyd y plentyn.