Mae prif ddarlledwr Sbaen wedi dweud na fydd yn dangos ymladd teirw ar y teledu mwyach fel nad yw plant yn gweld trais.

Dywedodd y darlledwr RTVE “na fydd yn darlledu ymladd teirw” mewn pennod o’r enw Trais Anifeiliaid yn ei lyfr canllawiau newydd.

Mae brwydro teirw yn tueddu i ddigwydd ar adegau o’r diwrnod pan mae plant yn gwylio’r teledu, medden nhw.

Ym mis Gorffennaf penderfynodd rhanbarth ymreolaethol Catalonia wahardd ymladd teirw, gan gythruddo ceidwadwyr ar draws y wlad.

Penderfynodd Yr Ynysoedd Dedwydd wahardd brwydro teirw yn 1991.