Mae tywydd oer mis Rhagfyr diwethaf wedi atal llawer o bobol rhag rhoi rhoddion i rai o elusennau mwyaf amlwg Cymru.
Mae Golwg360 yn deall bod rhoddion i dair elusen amlwg yng Nghymru’n dioddef ar ôl y tywydd garw diweddar – o ran arian a stoc i’w werthu yn eu siopau.
Fe ddywedodd Luned Jones o Oxfam Cymru ei bod “yn sicr bod lleihad yn y rhodion i Oxfam Cymru” cyn y Nadolig.
“Mae llai o roddion i gael fis Rhagfyr yn arferol oherwydd bod pobol yn siopa yn lle rhoi,” meddai ond gan gydnabod bod y sefyllfa eleni’n waeth nag arfer.
“Mae’n hawdd deall pam nad oedd pobol yn gallu rhoi rhoddion pan nad oedd llawer hyd yn oed yn gallu cyrraedd y gwaith.
“Doedd rhai gwirfoddolwyr a staff Oxfam ddim yn gallu agor siopau oherwydd yr eira a’r tywydd garw. Ond, ein gobaith ni yw y gwnaiff bobl roi rhoddion y mis hwn.”
PDSA
Mae’r tywydd oer hefyd wedi atal pobl rhag rhoi cymaint o roddion i elusen anifeiliaid PDSA yn ystod mis Rhagfyr.
Mae’r elusen sydd â chanolfannau milfeddygol yng Nghaerdydd, Llanelli ac Abertawe wedi gweld gostyngiad o 20% yn ei ffigurau o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Mae’r elusen filfeddygol yn dibynnu ar roddion fel llyfrau, dillad, DVDs a chryno ddisgiau i gasglu digon o arian ar gyfer cynnal y gwasanaeth am ddim ar draws gwledydd Prydain.
Ond, mae stoc yn is nag erioed ar hyn o bryd, meddai’r elusen sydd hefyd wedi gweld gostyngiad o 28% yn nifer y bagiau rhoddion i’r elusen o’i gymharu â Rhagfyr y llynedd.
Fe ddywedodd Cyfarwyddwr Busnes yr elusen, Andrew Holl y gallai’r goblygiadau ariannol fod yn “hynod niweidiol” os nad yw pethau’n gwella. Daw’r gostyngiad ar ddiwedd y flwyddyn brysuraf erioed i filfeddygon yr elusen.
Fe ddywedodd Andrew Holl y byddai’r elusen yn “croesawu” rhoddion gan y cyhoedd fis hwn.
Y Groes Goch
Mae elusen Y Groes Goch hefyd wedi dweud wrth Golwg360 fod y tywydd wedi cael “effaith negyddol sylweddol” ar roddion a gwerthu dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
“Yng Nghymru mae gyda ni lawer o siopau gwledig a siopau mewn trefi marchnad. Mae’r tywydd wedi gwneud y trefi hyn yn oed yn fwy anhygyrch,” meddai Gareth Morgan, un o reolwyr Y Groes Goch.
“Fe wnaeth y siopau hefyd ddioddef wrth i’r tywydd wella – gan fod pobol yn fwy tueddol o deithio i mewn i ddinasoedd mwy i fanteisio ar sêls fis Ionawr.
“Mewn rhai ardaloedd roedd rhoddion stoc i lawr hyd at 50% ar gyfartaledd a chasgliadau bagiau rhoddion i’r elusen i lawr 80%,” meddai.
Roedd siopau hefyd “wedi gorfod cau oherwydd anawsterau gyda staff a gwirfoddolwyr yn cyrraedd y gwaith oherwydd y tywydd”.
Yn dilyn y lleihad mewn rhoddion, mae’r elusen yn annog pobl i gyfrannu eitemau at eu siopau elusennol.
Llun: Clawr un o finiau dillad Oxfam