Mae un o gyd-chwarewyr Jay Bothroyd yng Nghaerdydd yn credu y bydd y blaenwr yn gwrthod y cyfle i ymuno gyda chlwb o’r Uwch Gynghrair er mwyn helpu clwb y brifddinas i ennill dyrchafiad.

Mae’r ymosodwr mawr wedi cael ei gysylltu gyda sawl clwb ym mhrif gynghrair Loegr, gan gynnwys Fulham, Birmingham a Blackburn.

Fe fydd cytundeb presennol Bothroyd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac fe allai adael y clwb am ddim dros yr haf.

Ond mae Peter Whittingham yn ffyddiog y bydd ymosodwr Lloegr yn aros i helpu achos yr Adar Glas yn y Bencampwriaeth.

Mwynhau

“Mae Jay wastad yn dweud ei fod yn mwynhau ac yn awyddus i aros gyda’r clwb,” meddai Peter Whittingham wrth bapur South Wales Echo.

“D’yn ni ddim yn gweld hynny’n newid ac ry’n ni’n edrych ‘mlaen i’w gael ‘nôl yn chwarae. Mae Jay yn chwaraewr mawr i ni. Mae’n rhaid i ni gadw gafael ar chwaraewyr fel fe.”

Mae’r dyfalu wedi cynyddu ers i reolwr Caerdydd, Dave Jones, arwyddo blaenwr arall sy’n gallu arwain y lein ond, yn ôl Whittingham, doedd hynny ddim yn arwydd bod Bothroyd ar fin mynd.

Cystadleuaeth

“Mae’r rheolwr wedi arwyddo Jon Parkin i roi ychydig o gystadleuaeth i Jay ac i gymryd ei le pe bai’n cael ei anafu eto,” meddai Peter Whittingham.

“Mae gyda ni chwaraewyr gwych yma ac fe fydd Jay a Jon Parkin yn dychwelyd eto – felly mae popeth yn edrych yn dda.”

Llun: Jay Bothroyd