Mae awdurdodau Iran wedi carcharu menyw 55 oed o America ar gyhuddiad o ysbïo, yn ôl adroddiad gan un o bapurau newydd y wlad.

Yn ôl papur dyddiol IRAN roedd y fenyw wedi celu deunydd ysbïo ar ei chorff pan gafodd ei dal gan swyddogion yn nhref Nordouz, 370 milltir i’r gogledd orllewin o’r brif ddinas Tehran.

Roedd y fenyw wedi cyrraedd Iran o Armenia heb fisa, yn ôl yr adroddiad, ond doedd dim manylion ynglŷn â phryd y cafodd hi ei dal.

Dyma’r pedwerydd dinesydd Americanaidd i gael ei harestio a’u cyhuddo o ysbïo gan Iran mewn llai na dwy flynedd.

Yng Ngorffennaf 2009, daliodd Iran dri Americanwr, a’u cyhuddo’n gyntaf o groesi’r ffin yn anghyfreithlon o ogledd Irac, cyn eu cyhuddo yn ddiweddarach o ysbïo.

Mae’r Unol Daleithiau wedi wfftio’r cyhuddiad o ysbïo, gan fynnu mai tri cherddwr diniwed oedden nhw.

Mae eu teuluoedd hefyd wedi dweud mai croesi’r ffin drwy gamgymeriad wnaethon nhw, os oedden nhw wedi croesi’r ffin o gwbl.

Cafodd un o’r tri, Sarah Shroud, ei rhyddhau ym mis Medi. Mae ei chariad Shane Bauer a’i ffrind Josh Fattal yn parhau dan glo, ac yn wynebu achos llys fis nesaf.