Mae Leigh Halfpenny yn credu bod ei absenoldeb dros y misoedd diwethaf wedi bod o fudd iddo yn yr hir dymor.

Daeth yr asgellwr oddi ar y fainc ddydd Gwener ddiwethaf er mwyn chwarae ei gêm gyntaf i’r Gleision ers dioddef o anaf cyn cyfres ryngwladol yr hydref ym mis Tachwedd.

“Roedd dioddef yr anaf, yn enwedig cyn cyfres ryngwladol yr hydref, a rhai o gemau mawr Cwpan Heineken y Gleision, yn boen,” meddai Leigh Halfpenny.

“Roedden ni wedi gweithio’n galed ar fy ffitrwydd ac yn hapus gyda’r ffordd yr oeddwn i’n chwarae. Roedd hynny’n gwneud dioddef yr anaf yn waeth mewn ffordd.

“Ond roedd rhaid i mi wneud y gorau o fy amser oddi ar y cae ac rydw i’n teimlo fy mod i’n fwy heini ac yn gryfach nag oeddwn i.

“Serch hynny doedd hi ddim yn bosib gwneud lot o waith rhedeg felly mae angen i fi weithio ar fy nghyflymder.”

Mae Halfpenny yn gobeithio gallu chwarae’n gyson i’r Gleision ac fe fydd yn hwb i Gymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd yn hwyrach eleni.

“Mae’r Gleision mas o Ewrop ond r’yn ni mewn safle da yng Ngynghrair Magners,” meddai Halfpenny.

“Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y gorwel, ac wrth gwrs Cwpan y Byd ddiwedd y flwyddyn.

“Dyna pryd y bydd angen i mi fod ar fy ngorau, ac mae gen i lawer iawn o waith i’w wneud cyn hynny.”