Mae un o actorion EastEnders, Samantha Womack, wedi dweud ei bod hi’n bwriadu gadael yr opera sebon yn fuan.

Mae Samantha Womack yn rhan o’r stori ddadleuol ddiweddaraf ynglŷn â dwyn babanod, sydd wedi denu 3,500 o gwynion gan wylwyr.

Mae’r actores yn chwarae rhan Ronnie Braning, a gollodd ei phlentyn newydd anedig James yn ei gwsg ar Nos Calan, cyn cipio baban holliach mam arall.

Cadarnhaodd penaethiaid y rhaglen y byddai’r fam i ddau yn gadael yr opera sebon ar BBC 1 ymhen ychydig fisoedd, ond doedden nhw ddim yn fodlon cadarnhau bod y penderfyniad yn gysylltiedig gyda’r stori ddiweddaraf.

Yn ôl papur newydd y Sun, bu’n rhaid i’r actores 38 mlwydd oed roi’r gorau i ffilmio ar sawl achlysur, gan ddweud bod y cyfan wedi mynd yn ormod iddi.

Roedd hi hefyd wedi ei “gwneud hi’n glir” nad oedd hi’n hapus gyda chynnwys y stori.

Dywedodd llefarydd ar ran EastEnders fod “Samantha Womack wedi bod yn rhan anferthol o lwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe fydd hi’n parhau i weithio gyda ni nes iddi adael yn ddiweddarach eleni”.

Bydd yr actores yn gadael y rhaglen ym mis Mai.