Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau mai oherwydd y tywydd gaeafol y buodd cannoedd o bysgod farw ger y Fenni’r wythnos diwethaf.
Ar ôl ymchwilio i’r marwolaethau dywedodd yr asiantaeth mai “tywydd oer, rhew a diffyg ocsigen” oedd yn gyfrifol am y cannoedd o bysgod marw a gafwyd yng Nghamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yr wythnos diwethaf.
Roedd profion yn dangos nad oedd unrhyw lygredd yn y dŵr ger Glanfa Goytre a fyddai wedi achosi’r marwolaethau.
Rhybuddiodd yr asiantaeth y gallai rhagor o bysgod farw cyn diwedd yr wythnos o ganlyniad i’r tywydd oer.
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth wrth Golwg360 nad oedd yn ymwybodol o achosion tebyg mewn rhannau eraill o Gymru.
Mae dŵr camlas yn fwy tebygol o rewi am nad yw’n symud yn gyflym iawn, meddai.