Mae teigr o rywogaeth prin wedi lladd gyrrwr bws yng Ngogledd China, a hynny o flaen llond bws o dwristiaid.
Neidiodd y teigr ar ben Jin Shijun a’i lusgo i mewn i’r goedwig wedi i’r gyrrwr gamu allan o’i fws am eiliad, ddydd Llun.
Roedd y cerbyd wedi mynd yn sownd yn yr eira yn un o ganolfannau bridio teigrod Siberiaidd fwyaf y byd, yn nhalaith ogleddol Hrilongjiang.
Roedd y bws yn llawn twristiaid oedd yn ymweld â’r ganolfan fridio, yn ôl Asiantaeth Newyddion Xinhua. Mae’n debyg bod Jin Shijun wedi torri sawl rheol diogelwch pan adawodd y cerbyd.
Ceisiodd gweithwyr y parc ddenu sylw’r teigr oddi ar ei brae, ond erbyn iddyn nhw gyrraedd Jin Shijun, roedd e wedi marw.
Mae gan y ganolfan fridio tua 1,000 o deigrod Siberiaidd.
Y teigr Siberiaidd yw un o rywogaethau prinnaf y byd. Dim ond tua 300 sydd ar ôl yn y gwyllt, ond mae mwy nag 5,000 yn cael eu cadw ar ffermydd a pharciau ar draws China.