Mae Bangor wedi cyhoeddi bod eu hymosodwr Jamie Reed am adael er mwyn ymuno â Dinas Efrog.

Jamie Reed yw prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru, gyda 17 gôl y tymor hwn, ac fe fydd yn gadael Bangor gyda’r clwb ar frig y tabl.

Roedd yr ymosodwr wedi gwrthod y cyfle i ymuno gyda Dinas Efrog fis diwethaf ond mae disgwyl iddo gwblhau’r trosglwyddiad cyn y penwythnos ac fe allai wynebu Bolton yn y Cwpan FA ddydd Sadwrn.

Dyw Bangor heb ddatgelu faint o arian gynigiodd Dinas Efrog am Reed ond fe nodwyd mai dyma oedd y cytundeb gorau erioed iddynt ei gael am werthu chwaraewr.

“R’yn ni’n dymuno’n dda i Jamie. Mae wedi gwneud gwaith da i Fangor ac mae’n chwaraewr sgilgar a phroffesiynol iawn,” meddai cadeirydd Bangor, Dilwyn Jones.

“Mae gennym ni bob ffydd yng ngallu ein rheolwr Nev Powell i ddod o hyd i chwaraewr fydd yn llanw’r bwlch ar ôl ymadawiad Jamie.

“Mae gan ein carfan ni’r gallu i ennill cwpanau i Fangor y tymor hwn. R’yn ni’n edrych ymlaen at orffen y tymor yn llwyddiannus.

Cychwynnodd Jamie Reed ei yrfa â Wrecsam, ond mae wedi treulio cyfnodau gydag Aberystwyth, Glentoran, Bae Colwyn, Tamworth a’r Rhyl cyn ymuno gyda Bangor yn 2009.

Roedd yn brif sgoriwr y clwb ar ddiwedd tymor 2009/10, â 24 gôl mewn 34 gêm.