Mae disgwyl i Lee Byrne ddychwelyd i chwarae i’r Gweilch yng ngemau’r Cwpan Heineken yn erbyn Gwyddelod Llundaina Toulon yn hwyrach yn y mis.

Mae’r cefnwr wedi bod yn absennol o’r tîm ers torri ei fys bawd wrth chwarae dros Gymru yn erbyn Seland Newydd ar ddiwedd mis Tachwedd.

Ond cadarnhaodd ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers, bod Lee Byrne ar fin dychwelyd i’r tîm.

“Bydd plaster Lee yn dod i ffwrdd ddiwedd yr wythnos. Mae’n awyddus i ddychwelyd i chwarae cyn gynted â phosib ac r’yn ni’n gobeithio y bydd yn nôl mewn pryd i wynebu Gwyddelod Llundain,” meddai Chris Towers.

Fe fydd y rhanbarth o Gymru yn teithio i’r Stadiwm Madejski ar 16 Ionawr cyn croesawu Toulon i Abertawe’r wythnos ganlynol.

Mae’r Gweilch yn gobeithio cyrraedd rownd wyth olaf y gystadleuaeth am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Ond maen nhw’n drydydd yn eu grŵp ar hyn o bryd, o dan Toulon a Munster.