Cafodd dwy ofalwraig ddedfryd o garchar wedi ei ohirio heddiw, ar ôl defnyddio pyped llaw i fwlio hen bobol.

Llefodd Helen Males, 34, ac Eleni Saunders, 22, wrth i’r Barnwr Philip Richards gyhoeddi yn llys y Goron Caerdydd eu bod nhw’n wynebu cyfnod yn y carchar.

Maen nhw hefyd wedi cael eu gwahardd rhag swyddi yn gofalu am eraill am oes.

Roedd y ddwy wedi pryfocio hen bobol oedd yn dioddef o ddementia yng nghartref gofal The Old Rectory, Gwenfô.

Clywodd yr achos llys bod un ddynes 87 oed wedi ei phryfocio â phyped llaw coblynaidd.

Dedfrydwyd Helen Males i 52 wythnos yn y carchar ac Eleni Saunders i 38 wythnos yn y carchar. Mae’r dedfrydau wedi eu gohirio am ddwy flynedd.

Fe fydd rhaid i’r ddwy ddynes aros gartref gyda’r nos am chwe blynedd ac fe fyddan nhw’n gorfod cyflawni gwaith di-dâl yn y gymuned.

Clywodd y llys bod gan Helen Males, 34, ddau o blant pedair a chwe mis oed.

Roedd y ddwy wedi gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn ond penderfynodd reithgor ym mis Rhagfyr eu bod nhw’n euog.