Mae’r gêm Gymraeg gyntaf erioed ar gyfer yr iPhone wedi ei gyhoeddi gan gwmni o Gaernarfon.
Mae Cerrig Peryg gan Griffilms yn gêm hwyliog sy’n rhoi’r chwaraewr yn sgidiau gofodwr â’r dasg o saethu ac osgoi asteroidau.
“Rydym ni wedi datblygu cynnyrch arall ar gyfer yr iPhone ond heb ddefnyddio’r Gymraeg yn brif iaith eto,” meddai datblygydd y gêm, Dylan Jones.
“R’yn ni’n gwmni o Gaernarfon felly roedd hynny’n beth naturiol i’w wneud ac os ydi’r gêm yn llwyddiant fe wnawn ni ragor.”
Dywedodd Dylan Jones fod yna farchnad amlwg ar gyfer gemau ar yr iPhone. Mae dros 51,000,000 App wedi eu gwerthu ledled y byd yn barod – 17 gwaith poblogaeth Cymru.
Mae Griffilms eisoes wedi cynhyrchu sawl rhaglen deledu megis cyfres CNEX a ffilm Gelert, ond mae creu cynnyrch ar gyfer yr iPhone yn gam i gyfeiriad newydd.
“Mae creu Apps yn ffordd arall o ddefnyddio ein sgiliau cynhyrchu ac animeiddio,” meddai’r cyfarwyddwr Hywel Griffith.
“Os ydi Cerrig Peryg yn cael cefnogaeth y gymuned Gymraeg fe wnawn ni greu rhagor o gynnyrch ar gyfer y farchnad Gymraeg.”
Mae Cerrig Peryg ar gael i’w lawr lwytho ac yn costio 59c.