Mis Rhagfyr oedd yr oeraf ers 25 mlynedd, ac mae disgwyl i’r tywydd oer barhau wrth i ragor o eira yng Nghymru gwympo yfory.
Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd heddiw mai Rhagfyr 2010 oedd yr oeraf ers dechrau’r cofnodion 100 mlynedd yn ôl, a’r mis unigol oeraf ers Chwefror 1986.
Mae disgwyl tywydd ychydig yn gynhesach mis yma, ond mae’n debygol y bydd trwch newydd o eira yn disgyn yn ne ddwyrain Cymru a Phowys yn oriau man y bore yfory.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe fydd 8 i 12 modfedd o eira yn disgyn mewn rhai ardaloedd.
Mae disgwyl i’r eira droi’n law wrth iddo symud tua’r gogledd. Bydd y tymheredd ychydig yn uwch dros y penwythnos.
Er bod 2010 yn flwyddyn oer i Brydain ar y cyfan, yn fyd-eang y flwyddyn honno fydd y poethaf ers 1998.