Mae Llywodraeth San Steffan wedi cydnabod fod yna ddiffyg brechlynnau ar gyfer y ffliw mewn rhai rhannau o Wledydd Prydain.

Mae Ysbyty Athrofaol Caerdydd, y mwyaf yng Nghymru, eisoes wedi cadarnhad nad oes ganddyn nhw frechlynnau ar ôl ac maen nhw’n disgwyl cyflenwad newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty bod problemau tebyg ar draws Cymru ond mae arwyddion bod lefelau ffliw yn lleihau.

Mewnforio

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi annog cwmnïau sy’n darparu brechlynnau i weld a fyddai’n bosib cludo stoc sydd dros ben i mewn o wledydd eraill yn Ewrop.

Ar ôl adroddiadau nad oedd cleifion yn gallu cael brechlynnau gan eu meddygon teulu rhyddhaodd yr Adran Iechyd ddatganiad yn dweud nad oes prinder “ar draws Prydain” ond bod yna “broblemau mewn rhai ardaloedd”.

Yn ôl Grŵp Diwydiant Brechu’r Deyrnas Unedig, mae 14.7 miliwn o frechlynnau wedi eu dosbarthu ar draws Gwledydd Prydain.

Mae 39 o bobol ar draws Gwledydd Prydain wedi marw o ganlyniad i ffliw ers dechrau mis Hydref.