Mae cyngor wedi cadarnhau y bydd rhaid cau pont am sawl mis ar ôl i graciau ymddangos ynddo yn dilyn y tywydd oer fis diwethaf.
Penderfynwyd cau Pont Aberbechan ar y B4389 ger y Drenewydd ddydd Sul ar ôl i’r cyngor gael gwybod am y craciau.
Mae’r bont yn adeilad rhestredig felly bydd rhaid ymgynghori â Chadw ac Asiantaeth yr Amgylchedd cyn gallu dechrau’r gwaith o’i adfer.
Mae’r cyngor bellach wedi gosod rhwystrau bob ochor iddi fel nad yw cerddwyr a cherbydau yn gallu croesi.
Dywedodd y cyngor bod y tywydd oer diweddar yn golygu nad oedd hi’n saff defnyddio’r bont. Fe fydd y cyngor yn asesu cyflwr y bont a sut orau i drwsio’r difrod.