Rhaid i S4C ddenu mwy o bobol ifanc i wylio’r sianel, neu mi fydd yr iaith Gymraeg yn marw.
Dyna rybudd y cyflwynydd Iolo Williams wedi iddo fod i ogledd America a Chanada i ffilmio cyfres ar yr Indiaid brodorol yno.
Yng ngogledd Dakota doedd yna’r un Indian o lwyth y Lakota o dan 60 oed, yn gwrando ar raglenni radio yn eu hiaith eu hunain.
Mae Iolo Williams yn rhagweld y bydd iaith y Lakota yn cael ei chladdu o fewn chwarter canrif, a bod perygl i’r un peth ddigwydd yng Nghymru.
“Ar y cyfan efo cynulleidfa S4C, pobol mewn oed ydyn nhw,” meddai’r cyflwynydd a’r naturiaethwr.
“Rhaid i ni wneud o’n cool i edrych ar S4C a gwrando ar Radio Cymru – mae’n hollbwysig ein bod yn ennill y frwydr.”
Iolo ac Indiaid America, nos Fercher nesa’ am 9 ar S4C
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr