Mae penderfyniad S4C i ddangos hysbysebion rhwng rhaglenni plant yn y bore wedi gwylltio un fam o Gaerdydd, sy’n rhybuddio y gallai gwylwyr ifanc Cymraeg eu hiaith droi at raglenni Saesneg y BBC.
Roedd Sioned Dafydd o Bontcanna yn falch iawn o benderfyniad S4C y llynedd i ymestyn gwasanaeth Cyw i’r penwythnos ond mae’n gresynu at y newid yn y drefn ddechrau’r wythnos i hysbysebu rhwng rhaglenni.
“Wedi iddyn nhw ymestyn y ddarpariaeth i’r penwythnos roedd ennill tir ar yr un llaw. Ond mae rhywun yn teimlo bod colli tir wedyn gyda’r penderfyniad yma i ddangos hysbysebion,” meddai Sioned Dafydd.
Yn ôl y fam i ddau mae’r hysbysebion wedi drysu ei phlant a chynyddu apêl gwasanaeth Saesneg CBeebies y BBC. Mae peryg i blant droi ffwrdd, ac i S4C golli cynulleidfa, meddai.
“Mae plant yn gwylio CBeebies hefyd, a does dim hysbysebion arno.”
“Mae S4C yn licio dweud eu bod nhw’n ymgynghori, ond sdim ymgynghori wedi bod ar hyn. Mae’r penderfyniad wedi ei wneud yn y dirgel braidd,” meddai.
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr