Mae’r mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn rhagor o bwerau i’r Cynulliad, Gwir Gymru, wedi dweud na fydden nhw’n poeni os na fyddan nhw’n cael eu penodi fel yr ymgyrch ‘Na’.
Fe fydd y Comisiwn Etholiadol yn penodi’r ymgyrchodd Ie a Na ar Chwefror 2 gyda’r ddwy ymgyrch lwyddiannus yn cael grant o £70,000.
“Os na chawn ni’n penodi, fydd dim Ymgyrch Ie chwaith. Fyddai hynny ddim yn siom i ni,” meddai Len Gibbs o Gwir Gymru.
“Dydyn ni ddim wir yn gweld yr angen am y statws, y cyfan fydd e’n gwneud fydd rhoi ychydig bach o arian i ni… dydyn ni ddim eisiau gwastraffu arian ar daflenni i’r post brenhinol eu dosbarthu fydd ond yn cael eu rhoi yn y bin heb eu darllen beth bynnag.”
Barn True Wales yw y byddai’n fwy o bryder i’r Ymgyrch Ie pe na bai dwy ymgyrch swyddogol yn cael eu penodi. Yn ôl Len Gibbs, mae pum llais gwahanol gan yr Ymgyrch Ie – y pedair plaid gwahanol a’r grŵp pwyso Cymru Yfory – pob un â neges rhywfaint yn wahanol i’w gilydd.
“All neb ddweud wrthon ni yn union beth fydden nhw’n gwneud â’r pwerau. Fedra’ i ddim â dod o hyd i ateb,” meddai Len Gibbs. “Does dim neges graidd unedig gan yr Ymgyrch Ie.”
Darllenwch weddil y stori yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr