Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn hyderus y bydd y refferendwm ym mis Mawrth yn cefnogi rhoi rhagor o bwerau deddfu’r Cynulliad.
Mae’n cyfeirio at ganlyniadau diweddar yr arolygon barn sy’n dangos ffafriaeth glir i bleidlais Ie mewn refferendwm, wrth fynnu ei fod yn “eithaf hyderus” o bleidlais Ie ar hyn o bryd.
“R’yn ni’n gweld gyda’r Ymgyrch Na, maen nhw’n mynd yn fwy a mwy personol ynglŷn â’r ymosodiadau maen nhw’n eu gwneud ar aelodau o’r ymgyrch Ie. Mae hwnna’n arwydd i fi eu bod nhw’n deall bod eu sefyllfa nhw yn wael,” meddai Carwyn Jones.
‘Neges wahanol’
Mae’r Blaid Lafur wedi sefydlu ei hymgyrch Ie ei hun ddiwedd y llynedd er mwyn sicrhau bod aelodau a chefnogwyr Llafur yn dod allan i bleidleisio ar Fawrth 3. Roedd yn gyfle i ddweud wrth y ffyddloniaid i bleidleisio Ie fel cic i’r glymblaid Geidwadol-Ryddfrydol yn San Steffan.
“Mae yna dactegau mae’n rhaid i ni eu defnyddio gyda phleidleiswyr Llafur.” meddai Carwyn Jones wrth egluro rhesymeg cael ymgyrch Ie ar wahân. “Un o’r negeseuon sy’n mynd i ddod â nhw mas yw ein bod ni’n sefyll lan dros Gymru.”
“Ond mae hynny’n wir am bob plaid. Mae pob plaid yn gorfod rhoi rhyw fath o neges tam bach yn wahanol i’w pleidleiswyr nhw heb fod hwn yn troi mewn i ryw fath o gad rhwng y blaid Lafur a’r Torïaid a’r Rhyddfrydwyr. Sawl neges ond anelu am yr un peth.”
Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr