Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn dweud bod angen “ail-fywiogi brand Cymru” er mwyn “fynd i’r afael â delweddau negyddol o’r wlad” heddiw.
Daw’r sylwadau wrth i Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, siarad o flaen cynulleidfa o arweinwyr busnes yn Llundain yn Neuadd y Ddinas ar ôl 6.00pm.
Bydd yn dweud fod canfyddiadau o Gymru’n chwarae rhan bwysig wrth ddenu buddsoddiad i’r wlad.
“Mae codi proffil Cymru yng ngwledydd Prydain a thramor yn nod ac yn flaenoriaeth i mi ers cryn amser,” meddai.
“Un o flaenoriaethau allweddol ein polisi newydd ‘Adnewyddu’r Economi’ yw gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes, ac mae delwedd ac enw da Cymru’n ddylanwad pwysig sy’n adlewyrchu’r amgylchedd busnes.
“Mae’n amlwg bod angen i ni ail-fywiogi brand Cymru i dynnu sylw at ein llwyddiannau a mynd i’r afael â chanfyddiadau negyddol. Trwy Adnewyddu’r Economi byddwn yn datblygu brand Cymru – yn enwedig ein cynnig o gefnogaeth i fusnesau.”
Llundain yn ‘allweddol’
“Rydyn ni eisoes wedi gwneud llawer o gynnydd, wrth i lwyddiant Cwpan Ryder y llynedd gryfhau brand Cymru’n sylweddol – ond mae rhagor o waith eto i’w wneud,” meddai.
“Rydyn ni’n cydnabod bod Llundain yn lleoliad allweddol o safbwynt creu barn. Dyna pam y byddwn yn cryfhau ein swyddfa yn Llundain – ac yn amlwg byddwn ni’n croesawu cyfleoedd i weithio gyda chi a phobl eraill i hyrwyddo Cymru’n well yn y Ddinas ac ar draws Llundain i gyd.
“Mae ein presenoldeb yn Llundain yn hollbwysig i sicrhau’r lefelau o fewnfuddsoddi a masnach sy’n hanfodol i’n heconomi.”