Fe sgoriodd ymosodwr Llanelli, Rhys Griffiths ei 200fed gôl yn Uwch Gynghrair Cymru wrth i Fangor golli am yr ail gêm yn olynol.

Fe lwyddodd Griffiths i sgorio’r goliau mewn dim ond 251 o gemau ar ôl llwyddo gyda chic o’r smotyn i roi Llanelli ar y blaen yn erbyn tîm Nev Powell ar Barc Stebonheath neithiwr.

Mae Griffiths wedi ennill gwobr prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru am y pum mlynedd diwethaf a dim ond Marc Lloyd Williams sydd wedi sgorio mwy o goliau yn yr adran gyda 319 mewn 419 o gemau.

Ond i Fangor, mae hi bron â mynd yn argyfwng – ar ôl misoedd heb golli yn y Gynghrair, maen nhw wedi cael eu curo ddwywaith mewn wythnos.

Fe gafodd y pwyntiau eu sicrhau i Lanelli gyda dwy funud yn weddill pan sgoriodd Chris Llewellyn ac fe orffennodd y gêm ar nodyn is fyth i Fangor pan gafodd Jamie Brewerton ei anfon o’r maes ar ôl derbyn ei ail garden felen.

Tra bod y fuddugoliaeth yn cryfhau lle Llanelli yn y chwech uchaf ar gyfer ail ran hy tymor, mae’n golygu mai dim ond un fuddugoliaeth sydd gan Fangor yn eu pedair gêm ddiweddaraf.

Maen nhw’n parhau i fod 13 pwynt ar y blaen ar frig y tabl, ond mae gan y Seintiau Newydd dair gêm ychwanegol i’w chwarae.

Y Bala yn ennill

Mae’r Bala wedi codi oddi ar waelod y tabl ar ôl ennill 4-1 yn erbyn y Drenewydd ar Faes Tegid neithiwr.

Roedd y tîm cartref 2-1 ar y blaen ar hanner amser ar ôl i Josh Macauley a Chris Mason sgorio’r naill ochr a’r llall i gôl Paul Keddle i’r Drenewydd.

Fe gafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau pan sgoriodd Mark Jones ddwy gôl o fewn munud i’w gilydd wedi awr o’r chwarae.