Fe fydd protest anarferol yn digwydd yn erbyn trethi yn Romania heddiw.
Yn ôl asiantaeth newyddion PA, mae gwrachod yn bwriadu defnyddio baw cath a chŵn marw i felltithio gwleidyddion sy’n bwriadu codi treth incwm arnyn nhw am y tro cynta’.
Mae disgwyl y bydd tua dwsin o wrachod hefyd yn taflu planhigyn gwenwynig i mewn i afon Donaw – y Danube – yn rhan o’u protest yn erbyn deddf a gafodd ei chyflwyno ddechrau’r flwyddyn.
Mae’n ymgais gan y Llywodraeth i gynyddu eu hincwm o drethi.
‘Gwirion’
Mae honiadau bod gwleidyddion yn Romania hyd yn oed yn troi at ofergoeliaeth weithiau a bod yr Arlywydd yn credu mewn lliwiau lwcus.
“Mae’r gyfraith yma’n wirion,” meddai un o’r gwrachod. “Beth sydd yna i’w drethu a ninnau’n ennill fawr ddim?
“Wnaeth y gwleidyddion ddim edrych arnyn nhw eu hunain, ar faint o arian y maen nhw’n ei ennill, ar eu triciau: maen nhw’n dwyn ac yn dod aton ni i ofyn i ni felltithio eu gelynion.”
Mae pobol dweud ffortiwn hefyd yn gorfod talu treth incwm ôl dan y gyfraith newydd.
Llun: Afon Donaw yn Romania (Cazaresulina CCA 3.0)