Mae Llywydd y Cynulliad wedi cefnogi’r alwad am ddatganoli cyfrifoldeb am ddarlledu Cymraeg i’r Cynulliad eleni.
Yn ôl Dafydd Ellis Thomas, rhywbeth hollol ddiddefnydd yw ceisio amddiffyn S4C gan ei gymharu â thrio cadw capel ar agor.
Mae angen ail ystyried swyddogaeth y sianel, meddai, ac mae’r trafferthion diweddar yn brawf bod angen datganoli cyfrifoldeb i’r Cynulliad ar fyrder.
“Gallai ddigwydd yn syth. Y cwbl sydd rhaid gwneud yw mynd at y Llywodraeth yn San Steffan ar ôl yr etholiad, neu cyn hynny os ydyn ni’n benderfynol, a gofyn am drosglwyddo awdurdod S4C i fod yn atebol i Weinidogion Cymru,” meddai.
“Wedyn mi fyddai rhaid i’r awdurdod fod yn atebol. Byddai’n rhaid i’r aelodau fihafio’n briodol fel aelodau o gyrff cyhoeddus ac nid fel maen nhw’n bihafio ar hyn o bryd, crwydro o gwmpas heb brif weithredwr parhaol, hefo hanner cadeirydd sydd ddim yn gadeirydd chwaith.
“Mae’n waradwyddus bod hyn yn cael digwydd. Dyna pam ydw i wedi dweud yn barod petai S4C yn atebol i’r lle yma [y Cynulliad] fyddai hyn ddim wedi digwydd. Fydden ni ddim yn caniatáu i gorff cyhoeddus fod yn anweithredol.”
Darllenwch weddill y cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr