Mae meddyg teulu sy’n Gadeirydd Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru yn cyhuddo un o ysbytai Lloegr o “chwarae’n wirion” wrth geisio sicrhau mwy o gyllid i’w coffrau.

Mae’r Liverpool Heart and Chest Hospital Foundation Trust yn ceisio cael mwy o arian o Gymru i drin cleifion o’r gogledd sydd â phroblemau calon.

Yn y cyfamser mae’n bosib y bydd yn rhaid i Fwrdd Iechyd Pryfysgol Betsi Cadwaladr chwilio am ysbyty arbenigol arall mewn argyfwng – yn ôl llythyr cyfrinachol sydd wedi dod i law cylchgrawn Golwg.

Ond yn ôl Dr Phil White mae’r ysbyty yn Lerpwl wedi gwario’r cyllid a gawson nhw gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer cleifion gogledd Cymru yn y flwyddyn ariannol yma, ar lawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys.

“Nhw sydd wedi penderfynu gwneud y gwaith mor sydyn – maen nhw wedi creu sefyllfa lle maen nhw wedi trin mwy o bobol yn gynt a chael mwy o bres am or-wneud ar eu cytundebau,” meddai Dr White.

“Eu dewis nhw oedd trin 500 o gleifion non emergency mewn saith mis. Dw i’n amau bod Lerpwl yn trio cael bach mwy o bres o’r system na maen nhw’n haeddu … mae yna ychydig bach o bolitics yn mynd ymlaen – mae Ysbyty Broadgreen [yr hen enw ar yr ysbyty yn Lerpwl] yn dibynnu ar ogledd Cymru hefyd!”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 6 Ionawr