Mae maer dinas yng ngogledd ddwyrain Awstralia wedi rhybuddio y gallai gymryd blwyddyn i’r ardal ddod dros y llifogydd yno.

Mae stormydd newydd wedi dod â glaw trwm i achosi mwy o broblemau i gymunedau yn Queensland.

Er hynny, mae lefel y dŵr yn dechrau gostwng a thrigolion yn awyddus i ddychwelyd i’w cartrefi.

Fe fu’n rhaid i 4,000 o bobol ffoi o’u cartrefi yn Queensland ar ôl i law trwm ddechrau ychydig cyn y Nadolig, gyda 1,200 o gartrefi o dan y dŵr a 10,700 arall wedi cael eu difrodi.

‘Blwyddyn o waith’

Fe groesawodd maer Rockhampton y newyddion bod lefelau’r dŵr yn gostwng, ond rhybuddiodd y gallai ymdrechion i adfer y ddinas gymryd hyd at 12 mis.

Mae Brad Carter hefyd wedi galw ar 500 o drigolion Rockhampton a oedd wedi gorfod ffoi rhag y llifogydd i beidio â dychwelyd i’w cartrefi am bythefnos arall.

Ond mae ardaloedd eraill o Queensland yn dal i baratoi ar gyfer mwy o lifogydd gyda thref St George yn disgwyl i lefelau dŵr afon Balonne gerllaw gyrraedd uchafbwynt yr wythnos nesaf.

Roedd trigolion cymuned Condamine yn ne ddwyrain Queensland yn gobeithio dychwelyd adref heddiw – wythnos ar ôl gorfod ffoi mewn hofrenyddion – ond mae’r stormydd diweddara’ wedi cau’r ffyrdd yno.

Llun: Brad Carter (Cyngor Rochampton)