Mae hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner, wedi dweud bod rhaid curo Connacht â phwynt bonws yn eu gêm gartref nos yfory a dechrau dringo tabl y Cynghrair Magners.

Mae’r Dreigiau wedi tair gêm yn olynol ac maen nhw yn y degfed, uwchben Aironi a Connacht.

Byddai baeddu’r Gwyddelod yn hwb i’r rhanbarth o Gymru cyn cychwyn ar fis o gemau yn y Cwpan Heineken a’r Cwpan Anglo-Gymreig.

“Fe fydd yn gêm enfawr i ni. Mae’n rhaid i ni ennill – fe fyddai pedwar pwynt yn ein dyrchafu ni i ganol timau eraill gwell,” meddai Paul Turner.

Serch hynny dywedodd Turner nad oedd yn credu y byddai’r gêm yn erbyn tîm gwannaf y Gwyddelod yn un hawdd.

“Mae Connacht yn dîm da iawn – yn fawr ac yn gorfforol, ac maen nhw wedi gweld cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai Turner.

“Maen nhw wedi profi’r tymor yma eu bod nhw’n gallu perfformio oddi cartref.”

Newyddion y tîm

Dywedodd Paul Turner bod rhai chwaraewyr wedi eu hanafu yn erbyn y Scarlets dros y penwythnos ond ei fod yn obeithiol y bydd y garfan gyfan ar gael.

Roedd newyddion da hefyd â’r newyddion y bydd Matthew Watkins yn dychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf y tymor yma.

Mae’r canolwr wedi dychwelyd i chwarae yn dilyn llawdriniaeth i’w stumog dros yr haf.

Mae’r Dreigiau hefyd wedi cynnwys eu chwaraewr newydd, Mike Petri, yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Connacht.

Ymunodd yr Americanwr, sydd wedi ennill 17 cap dros ei wlad, o’r Sale Sharks.

Carfan y Dreigiau

Cefnwyr- Pat Leach, Will Harries, Matthew Watkins, Adam Hughes, Tom Riley, Ashley Smith, Aled Brew, Jason Tovey, Mathew Jones, Jonathan Evans, Wayne Evans, Mike Petri.

Blaenwyr- Hugh Gustafson, Ben Castle, Phil Price, Pat Palmer, Tom Willis, Steve Jones, Adam Jones, Luke Charteris, Robert Sidoli, Scott Morgan, Danny Lydiate, Gavin Thomas, Toby Faletau, Lewis Evans, Andrew Coombs, Robin Sowden-Taylor.