Roedd un o hosanau Joanna Yeates ar goll pan ddaethpwyd o hyd i’w chorff fis diwethaf, datgelodd yr heddlu heddiw.

Doedd Joanna Yeates, 25, ddim yn gwisgo ei chot na’i hesgidiau chwaith ond daethpwyd o hyd i’r eitemau rheini yn ei chartref ym Mryste, meddai’r Ditectif Arolygydd Phil Jones.

Gwelwyd y pensaer yn cerdded yn ôl i’w fflat yn ardal Clifton Bryste ar ôl mynd am ddiod gyda chyfeillion ar 17 Rhagfyr.

Daethpwyd o hyd i’w chorff wedi ei orchuddio ag eira ar Ddydd Nadolig, tair milltir o’i chartref. Roedd hi wedi ei thagu i farwolaeth.

“Rydw i yma heddiw i drafod hosan goll,” meddai Phil Jones.

Dangosodd fag yn cynnwys hosan lwyd o’r un maint a lliw a’r un sydd wedi diflannu.

“Pan ddaethpwyd o hyd i Jo ar Ddydd Nadolig roedd hi’n gwisgo un hosan yn unig. Doedd dim golwg o’r hosan ar Stryd Longwood na chwaith yn ei chartref.”