Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Gareth Thomas, wedi datgelu ei fod o wedi mynd i’r capel a gweddïo i Dduw newid ei rywioldeb.

Dywedodd Gareth Thomas bod sawl un arall o’r byd chwaraeon wedi dweud wrtho eu bod nhw’n hoyw ers iddo ddatgelu’r gwir.

Roedd yn siarad ar raglen sgwrsio yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â’r frwydr a wynebodd cyn cyhoeddi ei fod yn hoyw.

Ymddangosodd chwaraewr y Crusaders ar raglen boblogaidd Ellen DeGeneres ddoe.

Cyhoeddodd Gareth Thomas ei fod yn hoyw yn 2009 cyn gadael y Gleision er mwyn ymuno â’r Crusaders yn Wrecsam.

Mae’r actor Mickey Rourke eisoes wedi dweud ei fod o am chwarae rhan cyn-gapten Cymru mewn ffilm am ei fywyd.

Cyfrinach

Dywedodd Gareth Thomas wrth Ellen DeGeneres ei fod o wedi gwneud ymdrech fawr i gadw ei rywioldeb yn gyfrinach.

“Fe fydden i yn mynd allan i yfed gyda’r bois. Fi fyddai’r cyntaf i ddechrau ymladd a fi fyddai’n yfed rhagor nag neb arall,” meddai Gareth Thomas ar y rhaglen.

“Fe wnes i hyd yn oed briodi’r ferch ddelfrydol i mi.”

Pan benderfynodd Gareth Thomas ddatgelu ei fod yn hoyw dywedodd wrth ei wraig Jemma yn gyntaf.

Roedd Gareth Thomas wedi bod yn briod ers 2001 ond fe gafodd ysgariad y llynedd.

Dywedodd bod y newyddion yn sioc fawr i’w deulu, ond eu bod nhw bellach wedi derbyn ei rywioldeb.