Mae Bangor wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo Christopher Oldfield, gôl-geidwad fu’n chwarae yn nhîm ieuenctid Lerpwl.
Roedd Oldfield yn aelod o dîm dan 18 Lerpwl yn 2008 ac roedd hefyd yn aelod o ail dîm y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Rhyddhawyd ef ar ddiwedd tymor 2009-10 ac fe dreuliodd hanner cyntaf y tymor yma gyda Rochdale cyn penderfynu ymuno gyda thîm Nev Powell.
Dywedodd rheolwr Bangor y bydd Christopher Oldfield yn gystadleuaeth i rif un presennol y clwb, Paul Smith.
“Mae gennym ni gystadleuaeth ym mhob safle ond roedden ni wedi bod yn chwilio am gôl-geidwad ers tro. Mae yna sawl un yn canmol Chrgs ac rydym ni’n ei groesawu ef i’r clwb,” meddai Nev Powell.