Mae cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei hisaf yn hanes y blaid, yn ôl pôl piniwn newydd.
Yn ôl cyfuniad o bolau piniwn ComRes, ICM, Ipsos MORI a YouGov, gyhoeddwyd ym mhapur newydd The Independent heddiw, dim ond 11% sy’n cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dyna’r gefnogaeth isaf i’r blaid ers iddi gael ei ffurfio yn 1988. Byddai’r blaid yn colli 42 o’i 57 Aelod Seneddol mewn etholiad cyffredinol.
Mae’r Blaid Lafur bellach ar y blaen ar 40%, a’r Ceidwadwyr yn ail ar 38%, yn ôl y polau piniwn.
Bydd Nick Clegg yn ymgyrchu yn etholaeth Oldham East a Saddleworth heddiw cyn yr isetholiad ddydd Iau’r wythnos nesaf.
Yn ôl y polau piniwn mae 38% yn hapus â pherfformiad Nick Clegg ers ymuno â’r Llywodraeth, a 50% yn anhapus.