Mae cynghorwyr wedi gohirio penderfyniad ynglŷn ag adeiladu cerflun anferth o ddraig ger Wrecsam ar ôl pryderon nad yw’r ddraig y lliw cywir.
Cyfarfu’r cynghorwyr neithiwr er mwyn trafod a ddylai’r cerflun 65 metr o uchder, Deffro’r Ddraig, gael ei adeiladu ger y Waun ai peidio.
Dywedodd y cynghorwyr eu bod nhw eisiau i’r ddraig efydd, a fydd yn troi’n wyrdd dros amser, gael ei phaentio’n goch.
Rhybuddiodd y dyn busnes sy’n gobeithio adeiladu’r cerflun, Simon Wingett, y byddai’r lliw coch yn pylu dros amser oherwydd glaw asid.
Mae’n honni y bydd y cynllun yn creu 200 o swyddi ac yn cynhyrchu £3.5m i economi Wrecsam. Mae disgwyl y bydd 200,000 o bobol yn ymweld â’r ddraig yn flynyddol.
Bydd y cerflun hefyd yn cynnwys caffi, siopau, oriel, a bwyty.
Gwrthodwyd cynnig i wrthod y cais cynllunio ar sail maint y cerflun, ond roedd y cynghorwyr eisiau rhagor o wybodaeth ynglŷn ag effaith y cerflun ar draffig gerllaw, a sicrwydd bod y cynllun busnes yn ddichonadwy.
Roedd swyddogion cynllunio wedi cynghori y dylid cymeradwyo’r cynllun.
Os yw’r cerflun yn cael sêl bendith y cyngor bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Lywodraeth y Cynulliad.