Mae cynllun i adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn Wrecsam wedi cael sêl bendith cynghorwyr neithiwr.

Penderfynodd cynghorwyr roi caniatâd i adeiladu’r ysgol yn Gwersyllt, Wrecsam, ar dir Parc Gwledig Dyfroedd Alun dros y ffordd i Heol Delamere.

Mae anghytuno chwyrn wedi bod yn Wrecsam ynglŷn â lleoliad yr ysgol newydd, yn enwedig gan bobol sy’n byw gerllaw.

Roedd y cyngor wedi derbyn 30 llythyr yn cefnogi’r ysgol ond 44 yn gwrthwynebu, gan gynnwys Cyngor Cymuned Gwersyllt.

Bydd angen caniatâd Llywodraeth y Cynulliad cyn cael adeiladu’r ysgol newydd £5.9 miliwn fydd a digon o le ar gyfer 210 o ddisgyblion.