Mae llywodraethwr rhanbarth Punjab Pacistan wedi ei saethu’n farw gan un o’i warchodwyr ei hun ar ôl beirniadu cyfreithiau cabledd dadleuol y wlad.
Dyma’r llofruddiaeth wleidyddol amlycaf yn y wlad ers saethu’r cyn Brif Weinidog Benazir Bhutto yn Rhagfyr 2007.
Cafodd llofrudd honedig Salman Taseer ei arestio ac mae yna adroddiadau ei fod o wedi ei anafu.
Roedd Salman Taseer yn aelod o Blaid y Bobol Benazir Bhutto ac yn gyfaill i’r Arlywydd Asif Ali Zardari, ei gŵr gweddw.
Roedd y llywodraethwr yn uchel ei gloch ar sawl pwnc, ac yn aml yn defnyddio gwefan Twitter er mwyn cyfleu ei farn.
Dros y dyddiau diwethaf, wrth i Blaid y Bobol wynebu colli ei bartneriaid yn y glymblaid, roedd Salman Taseer wedi dweud y byddai’r llywodraeth yn goroesi.
Dywedodd y Gweinidog Cartref Rahman Malik bod yr un a ddrwgdybir wedi ildio i’r heddlu a dweud ei fod o wedi lladd Salman Taseer ar ôl i’r llywodraethwr “ddweud bod y gyfraith cabledd yn gyfraith du”.