Mae cannoedd o filoedd o ddarpar fyfyrwyr eisoes wedi gwneud cais am le mewn prifysgol y tymor nesaf, dangosodd ffigyrau newydd heddiw.

Mae’r ffigyrau yn awgrymu bod cynlluniau i godi ffioedd dysgu i hyd at £9,000 o 2012 ymlaen yn arwain at ruthr i wneud cais am le eleni.

Y rheini sy’n mynd i brifysgol yr hydref yma fydd yr olaf i osgoi’r cynnydd mawr mewn ffioedd.

Mae data gan UCAS yn dangos bod 344,064 o bobol eisoes wedi cyflwyno cais i ddechrau cyrsiau yn yr hydref.

Mae hynny’n gynnydd 2.5% ar yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol, ac mae’n golygu y bydd tua 8,000 yn rhagor o bobol yn brwydro am yr un nifer o lefydd a’r flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y cynlluniau gafodd eu cymeradwyo gan y Llywodraeth fis diwethaf yn caniatáu i brifysgolion Lloegr i godi hyd at £9,000 ar fyfyrwyr o Brydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd a Hong Kong.

Roedd 1,439 o bobol ychwanegol o’r Undeb Ewropeaidd wedi gwneud cais, a 368 ychwanegol o Hong Kong – cynnydd o 16%.