Fe ddechreuodd y frwydr o ddifri tros gynllun i godi llosgydd gwastraff anferth yn ardal Merthyr Tudful.
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi bod yn gwrthwynebu’r cynllun gan gwmni Americanaidd Covanta ers mwy na blwyddyn ond fe ddaeth yn glir bellach bod y cais cynllunio ffurfiol wedi cael ei wneud tros y Calan.
Oherwydd maint y cynllun – i losgi 750,000 o wastraff – fe fydd yn cael ei ystyried gan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith (yr IPC).
Ymgyrchu
Mae grwpiau Cyfeillion y Ddaear yn ne Cymru eisoes wedi addo ymgyrchu yn erbyn y cynllun – yn ôl grŵp Abertawe, mae pobol Merthyr eisoes wedi diodde’ digon o niwed i’w hamgylchedd oherwydd glo brig a chanolfan wastraff Trecatti.
Mae’r mudiad hefyd yn honni y byddai modd ailgylchu peth o’r gwastraff a bod datblygiadau o’r fath yn tanseilio ymdrechion i gael pobol i gynhyrchu llai o wastraff.
Yn ôl y cwmni, e fyddai’r cynllun yn costio £400 miliwn ac yn creu 650 o swyddi adeiladu, gyda 65 o swyddi parhaol ar ôl iddo ddechrau gweithio. Maen nhw hefyd yn dweud y byddai’n cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 180,000 o gartrefi.
Fe fyddai’r gwastraff yn cael ei gario i’r safle ar reilffordd sy’n bod eisoes, gyda rhwydwaith o ganolfannau i’w gasglu.
Cefndir
Covanta yw’r cwmni mwya’ yn y byd ym maes ynni-o-wastraff ac mae ganddo fwy na 40 o safleoedd, gan gynnwys rhai yn yr Alban, Lloegr a Dulyn yn Iwerddon.
Mae ei bencadlys yn yr Unol Daleithiau ond fe agorodd swyddfa yn Lloegr yn 2005 er mwyn datblygu ei fusnes yng ngwledydd Prydain a gweddill Ewrop.
Fe fyddai’r gwaith yn cael ei sefydlu’n agos at ganolfan dirlenwi Trecatti a gwaith glo brig Ffos y Frân.
Llun: Darlun y cwmni o waith llosgi gwastraff yn Nulyn