Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Joanna Yeates wedi dweud y gallai mwy nag un person fod yn gyfrifol am ei marwolaeth.
Fe ddywedodd yr heddlu nad oedd yna unrhyw dystiolaeth bod neb wedi ymosod yn rhywiol ar y pensaer tirwedd ond dydyn nhw ddim yn gwrthod y posibilrwydd bod cymhelliad rhywiol y tu cefn i’r lladd.
Mae’r heddlu yn apelio am gymorth i ddod o hyd i gerbyd 4×4 a gafodd ei weld yn agos at y fan lle y cafwyd corff Joanna Yeates ddydd Nadolig.
Dirgelwch
Mae’r ditectifs sy’n ymchwili i’r llofruddiaeth yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod pryd yn union na ble y cafodd y wraig 25 oed ei lladd.
Fe ddywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod yna fylchau sylweddol yn yr wybodaeth am oriau olaf Joanna Yeates a hithau wedi diflannu ar18 Rhagfyr.
“Rwy’n ddigon bodlon bod Joanna wedi cyrraedd ei fflat, ond alla’ i ddim dweud a oedd hi wedi gadael rhywun i mewn i’w chartref, a oedd rhywun eisoes yno neu a oedd rhywun wedi torri mewn,” meddai Phil Jones, y Ditectif Brif Arolygydd sy’n arwain yr ymchwiliad.
Y landlord
Landlord Joanna Yeates yw’r unig berson i gael ei arestio ynglŷn â llofruddiaeth y pensaer tirwedd hyd yn hyn.
Fe gafodd Chris Jefferies ei holi rhwng dydd Iau a dydd Sadwrn cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae’r heddlu wedi rhybuddio merched dinas Bryste i beidio â cherdded adref ar eu pennau eu hunain.
Llun: Joanna Yeates (Llun gan yr heddlu)