Mae trigolion mewn dinas yn Awstralia yn cael eu rhybuddio i gadw allan o ddŵr llifogydd oherwydd pryderon am nadroedd a chrocodeilod.

Mae rhannau helaeth o Rockhampton yn Queensland eisoes o dan y dŵr gyda disgwyl i’r lefelau godi ymhellach yn ystod y diwrnod nesaf.

Mae’n un o nifer o ddinasoedd a threfi yn yr ardal sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ar ôl haf mwy gwlyb na’r arfer.

Fe ddywedodd yr heddlu bod 10 person wedi cael eu lladd ers i’r llifogydd ddechrau yn hwyr ym mis Tachwedd llynedd.

Mae Prif Weinidog Awstralia, y Gymraes Julia Gillard, wedi dweud bod disgwyl i gostau’r llifogydd fod yn gannoedd o filiynau o ddoleri.

Fe ddywedodd Prif Weinidog talaith Queensland, Anna Bligh, bod systemau trafnidiaeth ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd ac yn yr awyr wedi cael eu torri. Mae’r lluoedd arfog yn helpu i gario nwyddau a bwyd i’r ardal.

Rhybuddio

Mae awdurdodau’n rhybuddio pobol rhag ceisio croesi’r dyfroedd yn eu ceir – dyna achos nifer o’r marwolaethau.

Fe ddywedodd maer Rockhampton, Brad Carter, bod yna fwy o adroddiadau o nadroedd yn y dŵr wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i dir sych a bod crocodeilod hefyd wedi cael eu gweld mewn afon gyfagos.

“Fydd pobol ddim mewn peryg os byddan nhw’n aros allan o’r dŵr. Ond allwn ni ddim sicrhau diogelwch trigolion fel arall,” meddai.

Llun: Papur lleol The Bulletin yn Rockhampton yn rhoi’r newyddion diweddara’