Mae patholegydd amlwg o Gymru wedi galw am dorri nifer yr ymchwiliadau post mortem sy’n cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr.

Yr Athro Derrick Pounder yw prif awdur adroddiad newydd sy’n dweud bod llawer gormod o ymchwiliadau awtopsi yn cael eu cynnal – mae’r rheiny’n golygu agor y corf i’w archwilio.

Yn ôl yr adroddiad, mae cynnal cymaint o ymchwiliadau yn gostwng safonau, yn costio’n ddrud ac yn achosi gofid diangen i deuluoedd.

Does dim digon o batholegwyr i wneud y 110,000 o ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal pob blwyddyn, meddai’r arbenigwr sy’n Athro Meddygaeth Fforensig ym Mhrifysgol Dundee ac sy’n dod yn wreiddiol o ardal Pontypridd.

Erthygl

Mewn erthygl yng nghylchgrawn y Gymdeithas Feddygol Frenhinol, mae ef a’i dîm ymchwil yn dadlau tros lai o ymchwiliadau awtopsi, gan ganolbwyntio ar achosion ble mae angen gwirioneddol, er enghraifft os oes amheuaeth o drosedd.

Mae’r adroddiad yn awgrymu bod 22% o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn arwain at ymchwiliad – llawer mwy nag mewn gwledydd gorllewinol eraill. O ddilyn cynllun mewn rhan o’r Alban, fe fyddai’r lefel yn cwympo i 6% a’r nifer i 30,000.

Mae’r adroddiad o blaid archwiliadau ‘allanol’ sy’n golygu archwilio tu allan y corff yn fanwl; mae eraill yn dadlau tros ddefnyddio sganwyr.

‘Achosion naturiol’

Yn ôl adroddiad Derrick Pounder, mae’r rhan fwya’ ôl ymchwiliadau awtopsi’n arwain at ddyfarniad o ‘farwolaeth trwy achosion naturiol’.

“Mae arnon ni angen llai o ymchwiliadau awtopsi a buddsoddi rhagor o amser i’w gwneud nhw’n well,” meddai.

“Mae angen i ni newid ein hagwedd a body n fwy ystyriol wrth ddewis pa farwolaethau sydd angen awtopsi, yn hytrach na’u cynnal yn awtomatig mewn nifer mawr o farwolaethau.”

Llun: Stafell awtopsi (Ralf Roteschek CCA 3.0)