Fe fydd yr ymgyrch Ie yn refferendwm y Cynulliad yn cael ei lansio ddiwedd y dydd heddiw.
Dan arweiniad Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, fe fydd yn cael cefnogaeth swyddogol y pedair prif blaid.
Hyd yma, ymgyrch Gwir Gymru yw’r unig wrthwynebiad amlwg, gyda chefnogaeth yr AS Ceidwadol, David Davies o Fynwy- er nad yw’n cael ymgyrchu’n gyhoeddus oherwydd ei swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.
Ar drothwy’r lansio, fe ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru bod angen system “normal” o lywodraethu Cymru yn hytrach na’r drefn “ddrud a hirwyntog” sy’n bod ar hyn o bryd.
‘Pobol nid pwyllgorau’
“Mae pobol Cymru’n haeddu’r hawl i benderfynu sut y maen nhw eisiau i’w gwlad gael ei rhedeg,” meddai Ieuan Wyn Jones. “Mae’n bryd i bobol Cymru, yn hytrach na phwyllgorau yn San Steffan, gymryd yr awenau.”
Fe fyddai pleidlais Ie yn y refferendwm ar 3 Mawrth yn golygu bod y Cynulliad yn cael hawl llawn i greu deddfau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, heb orfod gofyn am ganiatâd gan y Senedd yn Llundain bob tro.
Yn ôl Ieuan Wyn Jones, mae’r system yng Nghymru’n unigryw ac mae rheswm da am hynny – mae angen trefn gyflymach, symlach a rhatach, meddai.
Llun: Ieuan Wyn Jones