Mae’r Ceidwadwyr a Llafur wedi gwrthdaro eto tros y cynnydd mewn Treth ar Werth gyda’r Llywodraeth yn mynnu ei fod yn “arf pwerus i daclo’r ddyled”.
Fe gododd cyfradd y dreth o 17.5% i 20% am hanner nos neithiwr ac fe fydd yn effeithio ar amrywiaeth eang o nwyddau.
Dyma’r lefel ucha’ ers cyflwyno’r dreth yn 1973 ac mae’r Trysorlys yn gobeithio y bydd y cynnydd yn codi £13 biliwn er mwyn torri’r ddyled.
Mae’r Ganolfan Ymchwil Adwerthu wedi proffwydo y bydd y cynnydd yn effeithio ar lefelau gwario ar y stryd fawr – gostyngiad o £2.2 biliwn mewn blwyddyn.
Y dadlau
Mae’r arweinydd Llafur, Ed Miliband, wedi condemnio’r cynnydd gan ddweud y bydd yn taro’r economi – “fe fydd y wasgfa sydd wedi ei chreu yn Downing Street yn cyrraedd strydoedd siopa’r wlad”, meddai.
Ond, yn ôl y Canghellor George Osborne, mae’n rhaid i Lafur egluro beth fydden nhw’n ei dorri er mwyn arbed y £13 miliwn.
Mae papur newydd y Times yn awgrymu y bydd y cynnydd yn costio £600 y flwyddyn i deuluoedd dosbarth canol.
Llun: Y Canghellor George Osborne (M.Holland CCA 3.0)