Mae daeargryn 3.6 ar y raddfa Richter wedi taro gogledd orllewin Lloegr.
Mae Arolwg Daearegol Prydain bellach wedi cadarnhau bod daeargryn wedi taro gogledd Swydd Efrog. Digwyddodd y daeargryn am 9.03pm.
Dyma’r ail ddaeargryn yng ngogledd Lloegr o fewn pythefnos. Tarodd daeargryn 3.5 ar y raddfa Richter Ardal y Llynnoedd toc cyn 11pm ar 21 Rhagfyr.